‘Actions speak louder than words’ meddai’r hen air yn Saesneg, a dyna thema’r noson a gynhaliwyd yn y Morlan i gyd-fynd â’r arddangosfa Cred a Gweithred a fu yno am ran dda o fis Ionawr.
Anna Jane, Meg Elis, John Gurr ac Ann Griffiths oedd yn cymryd rhan, Ann a fagwyd yn y Morlan (neu’r hen Fethseilun) drwy gyfweliad oedd wedi ei recordio ymlaen llaw gan ei bod hi bellach yn byw yn Washington.
Er bod y pedwar yn trafod y pwnc o bedwar cyfeiriad go wahanol roedd yr hyn oedd yn gyffredin rhyngddynt yn ddiddorol.
Dechreuodd Meg gyda dyfyniad mam wrth ei mab (unig etifedd teuluoedd mawr Sir Aberteifi “gwell marw’n fachgen dewr an byw yn fachgen llwfr.” Fe wireddwyd ei geiriau a’u gosod yn gofeb i’w hunig fab. Myfyriodd Meg ar ei theimladau ei hun wrth ddod yn fam wrth iddi sylweddoli y gallai wneud unrhyw beth dros y plentyn yn ei breichiau. Y gallai hi ladd dros y bwndel bychan diamddiffyn. A’i sylweddoliad mai’r hyn oedd rhaid iddi wneud oedd byw drosto.
A dyna daro ar thema gyntaf y noson sef magwraeth. Bron yn ddieithriad, soniodd y pedwar am fagwraeth oedd wedi dylanwadu arnynt. Hyd yn oed John oedd erbyn hyn yn ddigrefydd yn tystio mai magwraeth ar aelwyd grefyddol a’i ysgogodd i weithredu’n wleidyddol gan gredu nad yw gweithredu’n ddyngarol yn unig yn gwneud dim mwy na thrin y symptomau yn hytrach na’r achos.
Yr ail thema oedd profiad personol. Gweithredu ar ran Y Sahariaid mae John (trigolion Gorllewin Sahara sydd wedi eu gwladychu gan Moroco) a’r hyn a drodd ei gefnogaeth gyffredinol yn weithredoedd concrit oedd trefnu ymweliad i rai o’r Sahariaid i Aberystwyth dod i’w hadnabod a bod yn dyst iddynt yn gweld y môr am y tro cyntaf ac yn rhedeg i mewn iddo’n llawen. Yn yr un modd roedd Ann yn Washington yn teimlo’i ei hegwyddorion yn bwrw gwreiddio o allu rhoi cwtsh i’r bobl roedd hi’n gweithio gyda nhw neu drostyn nhw.
Y drydedd thema oedd gweithredu’n fwriadus. Roedd pawb yn gweld bod dewis yn gwbl fwriadol yr oedd i’w wneud yn bwysig. John yn canolbwyntio ar ymgyrch fechan cymharol ddi-nod ond yn gweld dyfalbarhad yn torri’r garreg. Ann yn dewis yn fwriadol pa eglwys i fynd iddi yn Washington yn sicrhau bod ei demograffeg a’i hagweddau yn dweud yr hyn oedd hi am iddyn nhw ddweud. Iddi hi golyga ei ffydd ei bod yn poeni am ei bywyd yn y presennol nid yn nhragwyddoldeb. Anna Jane yn sianelu dicter yn egni i weithredu’n uniongyrchol ynglŷn â’r adar angau yn Harlech.
Gadawyd fi yn holi i ba raddau ydw i’n gweithredu’n fwriadol, sut alla i roi’r profiadau i mi fy hun a phobl o nghwmpas i sy’n mynd i chwalu rhagfarnau a chadarnhau bwriadau da a pha brofiadau uniongyrchol ydw i’n roi i mhlant i fydd yn aros gyda nhw’n brofiadau dyrchafol pan fyddan nhw’n tynnu at eu hanner cant ac ‘yn gweld yn lled glir y bobl a'r cynefin a foldiodd ei fywyd e’.
Rocet Arwel Jones
Comments