Capel y Morfa
Croeso
​
​
Pa mor hen ydi hen?
​
Donald Trump ydi hen ŵr y frwydr am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau bellach wedi i Joe Biden gamu nôl a dweud digon yw digon. Fe gymerodd y cam hwnnw gryn amser iddo, ond rhaid ei edmygu am ei wneud. Does na ddim llawer o bobl mewn sefyllfa rymus yn ddigon dewr ac yn ddigon gonest i ddweud “er y byddwn wrth fy modd yn parhau - er lles y swydd ac er lles y bobl a’r genedl, rydw i am roi heibio fy uchelgais.”
Bellach mae’n ymddangos mai Kamala Harries fydd ymgeisydd y democratiaid a hithau ddim yn drigain oed eto. Ond y mae Kamala yn brwydro yn erbyn dyn sydd yn credu fod Duw o’i blaid, a’i fod wedi ei achub ar funud ragluniaethol y saethu yn Pennsylvania.
​
Mae rhai efengylwyr yr Unol Daleithiau yn gweld Doanld Trump fel gŵr wedi ei ethol gan Dduw i arwain ei genedl. Er mwyn cyfiawnhau’r gosodiad mae nhw yn ei gymharu efo Cyrus, ymerawdwr y Persiaid a’r Mediaid. Doedd hwnnw ddim yn angel, ond honnir fod Duw wedi ei osod mewn grym er mwyn rhyddhau’r Israeliaid o’r Gaethglud ym Mabilon. Yn yr un modd credant fod Duw yn gosod Trump yn y TÅ· Gwyn er mwyn diogelwch pobl Dduw ac er mwyn llwyddiant gwerthoedd Cristnogol. Diau fod na Gristnogion eraill yn yr Unol Daleithiau sydd yn gwaredu wrth glywed y fath ddatganiad, ac yn methu dirnad sut y gall Cristnogion rhesymol gefnogi rhywun sydd wedi ei gael yn euog o droseddau twyll, sydd yn arddangos dirmyg tuag at ferched ac sydd yn rhaffu celwyddau.
​
Ond beth sydd wnelo hyn â ni? meddai rhywun. Mae penderfyniad Biden yn un dewr, ac yn esiampl i ni. Nid o ran ei oedran, nid hynny yw’r ystyriaeth, ond yn hytrach parodrwydd i ofyn – ai fi yw’r gorau i wneud hyn heddiw? Mae hi’n rhy rhwydd dal gafael ar rym er ein mwyn ein hunain yn hytrach na gofyn beth sydd orau i’r bobl a’r sefydliad da ni ynddo. Nid faint yw f’oedran yw’r cwestiwn, ond pa mor “hen” neu pa mor anaddas ydw i’r swydd yma? Byddai yn llesol i flaenoriaid, swyddogion eglwys a phawb ohonom i ofyn bob hyn a hyn, ydw i’n addas i’r dasg sydd ger bron heddiw ... yn enwedig pan fo rhywun wedi bod wrthi am flynyddoedd lawer. Mae dybryd angen syniadau newydd ar lawer o eglwysi a dyna pam fod erthygl Pryderi Llwyd Jones yn Cristnogaeth 21 wedi ei gynnwys yn y rhifyn hwn. Mae angen dewrder weithiau i gamu nol a rhoi lle i eraill gyflwyno a datblygu syniadau.
​
Ond rhag i rywun gam-ddehongli’r pwt bach yma, tydi oedran yn cyfri dim. Yn y Church Times ganol Gorffennaf mae na erthygl am Elinor Delaney, Cymraes sydd yn byw yn Llundain, sydd newydd ei hordeinio yn ddiacon yn Eglwys Loegr a hithau yn saith deg naw. Flwyddyn nesaf a hithau yn bedwar ugain, os Duw a’i myn, fe’i hordeinir yn offeiriad. Mae’r syniad neu’r alwad wedi bod yn ffrwtian yn ei meddwl ers ei harddegau a dim ond yn awr y mae’n gwireddu’r cyfan. Yn ôl yr offeiriad yn ei heglwys yn Hampstead Garden Suburb, Emily Kolltveit mae’n dod a “doethineb rhyfeddol, ymroddiad, ysbrydolrwydd ac amynedd i’w gweinidogaeth ond yn ogystal egni Peter Panaidd yn ei gwaith”. Nid oedran sydd yn penderfynu os yw rhywun yn rhy hen ond addasrwydd rhywun i’r dasg, fel ein bod oll yn dod ag egni, ffresni a gweledigaeth newydd i ba swydd bynnag da ni’n geisio gyflawni, a hynny er mwyn hyrwyddo teyrnas Crist.
Mae Capel y Morfa yn eglwys fywiog a chartrefol yn Aberystwyth - eglwys sydd yn agored iawn ei meddwl a'i hagwedd. Rydym yn credu yn Iesu Grist fel calon a chanol bywyd y Cristion ac fel ffynhonnell ein hadnabyddiaeth o Dduw. Yr ydym yn ceisio ei ddilyn o ddydd i ddydd gan ddibynnu arno am faddeuant am bob methiant, nerth ym mhob angen ac ysbrydoliaeth ar gyfer pob her.