top of page

Canolfan Morlan
Sefydlwyd Canolfan Morlan gan Gapel y Morfa yn 2005 gyda’r bwriad o hybu bywyd cymunedol – yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol, yn lleol a thu hwnt. Y mae’n anelu at fod yn bont rhwng yr eglwys a’r gymdeithas o’i chwmpas ac mae wedi datblygu’n adnodd pwysig yn yr ardal.
​
Ond mae Morlan yn llawer mwy nag adeilad … … mae’n fan cyfarfod – i greu a thrafod, i wrando a dysgu, i ysgogi a chalonogi, i gyd-ddeall a chlosio, i rannu a chyfrannu … tir canol rhwng yr eglwys a phawb sy’n byw yn ein cymdeithas amlddiwylliannol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan morlan:
www.morlan.cymru
bottom of page