
Ymunwch gyda ni...
Digwyddiadau

Cinio Bara Caws Dydd Llun cyntaf y mis
mewn gwahanol eglwysi yn y dref
Y cinio i godi arian at Gymorth Cristnogol mewn amrywiol addoldai yn y dref.rhwng 12.00 ac 1.30
Mai 2022
Mai 1 - Gweinidog - oedfa yn y capel ac ar Zoom
Mai 9 - Ifan a Catrin Roberts - oedfa Zoom yn unig
Mai 15 - Gweinidog - oedfa yn y capel ac ar Zoom
Mai 22 - Geraint Tudur - oedfa yn y capel ac ar Zoom
Mai 29 - Gweinidog - oedfa yn y capel ac ar Zoom
oEDFAON Y mIS
am 10.00
Plant a Ieuenctid
Yr Ysgol Sul
Mae amrywiaeth o grwpiau a gweithgareddau yn cael eu cynnig yn ystod y cyfnod yma:
Bellach mae'r Ysgol Sul yn cyfarfod yn y festri am 10 pob dydd Sul. Rhoir ystyriaeth ofalus i’r gofynion diogelwch presennol
Grwp ieuenctid (Oed Ysgol Uwchradd): bob bore Sul am 11 o’r gloch - Yn cyfarfod mewn gwahanol leoliadau. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

gWEDDI A CHOFFI
Mae sgwrs dros baned yn ein tywys ni i fan lle gallwn gyflwyno'r eglwys, ein cymdogaeth, ein gwlad a'n byd i ofal Duw mewn gweddi. Cyfarfod am 11 bob bore Mawrth ar Zoom

FFYDD A PHANED

Cyfle i ymdawelu a thrafod y Beibl a digwyddiadau'r dydd yn hamddenol dros baned. Cyfarfod ar Zoom am 2.00 ar brynhawn dydd Gwener