
“Iesu yw’n brenin”Yn amlach na pheidio ymhyfrydu fyddem petaem yn clywed tyrfa o filoedd yn siantio “Iesu yw’n brenin”, ond er i hyn ddigwydd yn ddiweddar mae’n anodd iawn ymhyfrydu. Fe glywyd y siant a’r dyrfa yn defnyddio Gweddi’r Arglwydd yn Llundain mewn rali asgell dde eithafol wedi ei threfnu gan Tommy Robinson. Rali “uno’r fenhiniaeth” oedd y digwyddiad gyda fe honnir can mil o bobl wedi ymgasglu i fynegi cefnogaeth i wrthwynebu mewnfudo, diogelu Prydain “Gristnogol” a mynnu hawl mynegiant gan gynnwys hawl i wrthwynebu Islam. Nid y siant Iesu yw’r brenin yn unig a glywyd , fe gyflwynwyd Gweddi’r Arglwydd o’r llwyfan hefyd.
​
Nid y geiriau oedd yn peri pryder ond y cyd-destun. Yr hyn a gafwyd o’r llwyfan drwy’r digwyddiad oedd creu ofn a chasineb. Portreadwyd mewnfudwyr a cheiswyr lloches fel pobl i’w hofni, yn dreiswyr, yn bobl fyddai yn dwyn ein swyddi, ac ar yr un pryd yn rhyfedd iawn yn byw ar fudd-daliadau. Byddai’r bobl hyn yn gwneud miloedd yn ddigartref ac yn dreth ar y gwasanaeth iechyd. Nid oes dim oll yn yr holl gyhuddiadau yma, dim byd ond rhethreg sydd yn creu ofn a chasineb. Y meddylfryd yw, os ydw i’n dlawd arnyn nhw mae’r bai. Creu ofn a chreu gelyn a chynnig ateb simplistig hiliol yw tacteg fasciaeth erioed, ac yn anffodus mae na rai Cristnogion yn cael eu denu gan y meddylfryd hwn o hyd.
Meddwl gwahanol mae rywun yn ei weld yn Iesu Grist. Roedd y sefydliad crefyddol yn Israel ar y pryd yn gweld bai ar y publicanod – y casglwyr trethi i Rufain – am fradychu eu gwlad ond daeth Iesu yn ffrind iddynt. Roedd y sefydliad crefyddol am labyddio merch oedd yn cael ei dal mewn godineb (diddorol nad oedd sôn am gosbi’r dyn) ond mae’r Iesu yn ei thrin gyda thynerwch a gofal bugeiliol. Pobl yr ymylon, y gwrthodedig, y tlawd a’r di-ymgeledd – y rhai oedd yn ceisio lloches yn eu dydd – rhain oedd y bobl yr oedd Iesu yn rhoi blaenoriaeth iddynt. Y crefyddwyr hunangyfiawn oedd am edrych ar ôl eu hunain oedd yn cael eu condemnio.Pan ddaw etholiad Senedd Cymru yn y gwanwyn gochelwn rhag y bobl hynny sydd yn creu ofn, yn beio’r arall ac yn hau casineb, a mynnwn fod cyfiawnder, gofal am y gwan a chariad at bobl mewn argyfwng yn ofyn allweddol gan yr ymgeiswyr. Rhaid i’n gwleidyddiaeth hefyd gael ei dywys gan Grist y brenin tlawd.
"Iesu yw'n brenin"
