Mae’r dyddiau diwethaf yma wedi bod yn ddyddiau rhyfedd! Llai o bobl ar y stryd, ambell i siop wedi cau, silffoedd gwag, caffis tawel a phatrwm arferol wythnos waith wedi newid i lawer un. Mewn un ystyr fydde ni ddim wedi dychmygu’r fath newidiadu, rhywbeth hyd braich oedd yr holl sôn am yr haint COVID – 19. Mae’r ymatebion yn amrywiol; rhyw gymysgedd o angrhediniaeth, ofn, ansicrwydd ond hefyd y sylweddoliad bod rhaid i rhywun ymateb mewn ffyrdd cadarnhaol fydd yn ein galluogi i ddelio â’r sefyllfa a goresgyn. Wrth deithio drwy Aberystwyth ddydd Iau fe welais wraig yn tacluso gwrych a’r weithred naturiol honno’n atgoffa rhywun ei bod yn wanwyn. Mae yna dyfiant newydd a’r tyfiant yna’n symbol o’r addewidion sydd i ddod. Dwi am ddal gafael yn y darlun yn tros yr wythnosau nesaf ac atgoffa fy hunan yn ddyddiol y bydd pethau’n newid. Hyd y digwydd hynny fe elwir arnom i wneud pethau ychydig yn wahanol. Fel eglwys byddwn yn defnyddio’r wefan fel cyfrwng i addoli ac addysgu, bydd cynllun bugeiliol newydd yn cael ei sefydlu ac fe fydd yn gyfnod o arbrofi a darganfod ffyrdd newydd o fyw a thystiolaethu. Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn dal ati, ond yn fwy na hynny, yn deall Duw o’r newydd yng nghanol y cyfan.
Eifion Arthur Roberts
Comments