top of page
Writer's pictureMunud i feddwl

Cofio Noel lloyd


Gyda thristwch y clywsom fel capel am farwolaeth yr Athro Noel Lloyd, nos Wener y 7fed o Fehefin 2019.

Ers ei farw mae pobl o bob cwr wedi bod yn cyfeirio at ei allu eithriadol ym maes Mathemateg a’i ddawn arbennig fel gweinyddwr gonest a theg yn ystod ei gyfnod fel Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Ry’n ni yng Nghapel y Morfa wedi colli cyn-ysgrifennydd, cadeirydd y blaenoriaid ac organydd ond yn fwy na dim un a oedd yn gwbl ffyddlon i’r achos.

‘Cristion gloyw’

Doedd ryfedd i’w gyd-flaenor a Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ddweud bod “colli Noel Lloyd yn golled enfawr.

"Gwelais â'm llygad fy hun,” meddai Gwerfyl Pierce Jones, “y parch oedd iddo, nid yn unig ar sail ei ysgolheictod ond ar sail ei bersonoliaeth hawddgar, ei degwch naturiol a'i ddiffuantrwydd.

"Ond yn bennaf oll byddwn yn ei gofio fel Cristion gloyw a roddodd oes o wasanaeth i'w gapel, ei enwad ac i nifer o achosion crefyddol a dyngarol yn lleol ac yn genedlaethol."

Mewn teyrnged yn rhifyn nesaf o Perthyn bydd yr Athro Alun Morris, yr un a’i penododd i’w swydd gyntaf yn Aberystwyth, yn cyfeirio at ddisgleirdeb Noel Lloyd ac wrth gyfeirio at ei allu gweinyddol noda “pa mor lwyddiannus oedd fel ysgrifennydd Seilo, ac wedyn Capel y Morfa”.

Ychwanega: “Daeth ei ddawn dawel o berswadio a chario bobl gydag ef yn amlwg iawn yn y trafodaethau i gyfuno capeli Presbyteraidd y dref i ffurfio’r Morfa. Yn y gwaith, daeth hi’n amlwg bod dawn arbennig ganddo i lywio pwyllgorau, i drin pobl yn deg ac i’w cario gydag ef yn ei ffordd nodweddiadol dawel ei hun.”

Mae teyrngedau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol wedi sôn am ei gyfraniad arbennig fel Cadeirydd Masnach Deg Cymru, aelod dylanwadol o Bwyllgor Silk ac ar gyfrif trydar yr Eglwys Bresbyteriadd diolchwyd am “fywyd a chyfraniad sylweddol , Cristion bonheddig, ysgolhaig a gwladweinydd annwyl.”

Cydymdeimlwn fel eglwys â Dilys, Hywel, Carys a’r teulu a chofiwn amdanynt yn ein gweddïau.

54 views0 comments

Recent Posts

See All

Tacluso Gwrych!

Mae’r dyddiau diwethaf yma wedi bod yn ddyddiau rhyfedd! Llai o bobl ar y stryd, ambell i siop wedi cau, silffoedd gwag, caffis tawel a...

Geiriau a gweithredu

‘Actions speak louder than words’ meddai’r hen air yn Saesneg, a dyna thema’r noson a gynhaliwyd yn y Morlan i gyd-fynd â’r arddangosfa...

コメント


bottom of page