Mae na flas gwanwyn yn y tir, diolch byth, mymryn o haul cynnes a’r ddaear yn ymateb a’r adar yn canu ben bore. Onid oes na ryw ryfeddod yn y cyfan, hyd yn oed mewn chwyn. Er efallai y dylid dweud fod mwy o ryfeddod mewn chwyn. Mymryn o rew ac mi fydd y geraniums oedd mor hardd llynedd yn farw gorn, mymryn o wynt miniog y mor ac mi fydd dail bregus ambell flodyn wedi deifio, ond rhew, gwynt miniog, chwyn laddwr cryf, chwynwr brwdfrydig cyson – a does dim oll yn rhwystro’r chwyn rhag ailgodi. Mae ganddyn nhw ddawn ryfedd i ail ymddanos hyd yn oed drwy drwch o goncrid. Fe ddont o hyd i’r crac lleiaf yn hwnnw hyd yn oed a mynnu byw. Efallai ei bod hi’n gymhariaeth dipyn bach yn od ond mae chwyn yn gallu bod yn ddarlun i ni o atgyfodiad. Tybed nad chwyn oedd ym meddwl Eseia pan ddisgrifiodd y Gwas Dioddefus fel un yn tyfu fel blaguryn, ac fel gwreiddyn mewn tir sych, achos nid oedd na phryd na thegwch iddo, na harddwch i’w hoffi wrth i ni ei weld, roedd wedi ei ddirmygu a’i wrthod gan ddynion... (Eseia 53). Ar y Pasg cyntaf hwnnw fe geisiodd yr awdurdodau gael gwared o’r Iesu, ei ladd a’i ddinistrio, ceisio ei ddileu, ond nid oedd hynny yn bosibl, ni allai angau ei ddal yn gaeth, ac ni allai bedd ei orchfygu, a dyna pam fod gweld y chwyn yn gwthio ei blagur drwy bob anhawster yn atgoffa rhywun o atgyfodiad Crist.
Ond meddai rhywun, dwi ddim eisiau chwyn yn fy nghardd daclus i, a rhaid i minnau gyfaddef dydw innau ddim yn rhy hapus pan fydd chwyn yn mynnu eu lle rhwng y slabiau llechi yng nghefn y tŷ. Does fawr o groeso i chwyn yn aml. Ond mae’r naturiaethwyr yn dweud yn gyson bellach fod ein gerddi taclus yn difa bio-amrywiaeth yn ein byd. Oherwydd hynny meddent mae angen gadael darnau o’r gerddi i fynd yn wyllt. Gadael i’r chwyn gael ei ffordd oherwydd y mae ei awch am fywyd yn hyrwyddo bywyd yn ei holl amrywiaeth. Onid dyna y mae’r Crist atgyfodedig yn ei wneud hefyd. Os yw Crist yn cael ei le, y mae ei afiaeth a’i egni yn ein llenwi ninnau gan adnewyddu ein bywyd ysbrydol, ond hefyd ein bywyd diwylliannol, personol a chymdeithasol.
Peidiwn a chondemnio chwyn felly, mi alla nhw ein hatgoffa o’r Iesu a’r bywyd na ellir ei ddinistrio. Dylid cofio hefyd mai pethau ffôl y byd, a phethau gwan a phethau distadl mae Duw yn eu ddewis ac yn eu ddefnyddio o hyd. Onid dyna ydym ni, ond mae’n fodlon ein llenwi a grym bywyd anorchfygol y Crist atgyfodedig.
John Roberts
Comments